Cwestiwn 2
- Yn eich barn chi,
a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r
newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud
hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw
gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?
|
|
Mae'r CSGA yn mynd
peth ffordd er mwyn sicrhau newidiadau o ran darparu ar gyfer
gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg. Mae'n tynnu sylw rhieni
ac awdurdodau ato i ddechrau, ac yn sgil hynny, wedi gorfodi rhai
siroedd i weithredu arno. Serch hynny, dydy'r broses
gyfreithlon ddim yn hwyluso cynnydd.
|
|
Os ydych o’r farn nad
yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau
newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?
|
|
Gwella ar y broses o symud
ysgolion ar hyd y continwwm iaith
|
|
Cwestiwn 3
- Beth yw eich barn
ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno
adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a
Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?
|
|
Mae'r trefniadau
ar gyfer pennu targedau yn creu problemau yn y siroedd hynny lle
nad oes ysgolion yn darparu naill ai yn y Gymraeg neu yn y Saesneg
yn unig. Gallaf weld bod targedau, ee, dilyniant yn enwedig,
yn rhwyddach i dargedu mewn sefyllfaoedd ble mae teuluoedd yn
penderfynu bod y plant yn gychwyn ar daith addysg Gymraeg yn dair
ac yn para hyd at ddiwedd cyfnod ysgol. Beth sydd yn gymhleth
yw yn y siroedd hynny ble mae ganddynt amrywiaeth o ddarpariaeth
addysg ieithyddol.
Mae’r
monitro’n sicrhau bod y Cynlluniau’n gyfoes a phwrpasol
ac yn annog ALl i gadw sylw parhaus arnynt.
|
|
Cwestiwn 4
- Yn eich barn chi,
a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu
rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg
Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol
eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr
Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw;
Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)
|
|
Mae angen fwy o gydlynu o ran
polisiau. Mae'r polisi cludiant yn un amlwg ble mae diffyg
dealltwriaeth o anghenion y CSGA.
Bydde'n dda o beth
i bob adran canu o'r un llyfr emynau er mwyn sicrhau dilyniant
ieithyddol llwyddianus. Rhaid hefyd cofio goblygiadau hir
dymor adroddiad Donaldson.
|
|
Os ydych o'r
farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?
|
|
Mae angen sicrhau
amser i gyd gordio'n lleol ac yn genedlaethol.
|
|
Cwestiwn 5
- Yn eich barn chi,
a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er
enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm
isel?
|
|
Mae'r Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob
disgybl. Serch hynny mae yna broblem o ran sicrhau
darpariaeth ieithyddol safonol i gynnal pob disgybl yn enwedig yn y
sector anghenion arbennig.
|
|
Os ydych o’r farn nad yw
canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?
|
|
Mae angen edrych ar ein system
addysg. Mae'r Cyfnod Sylfaen, os yn gweithredu'n dda, yn creu
dysgwyr annibynnol sydd yn cyd ymffurfio gyda phwysigrwydd
‘Physical Literacy.’ Yna, yn syth yn yr adran
Iau, ac hyd yn oed ym mlwyddyn 2, mae'r ffordd o addysgu’n
newid ac yn cael eu ffurfioli er mwyn paratoi ein dysgwyr ifanc ar
gyfer arholiadau allanol. Wrth edrych yn wrthrychol, mae'n
amlwg nad ydynt yn hwyluso'r daith addysg wrth wrthdaro yn erbyn
gofynion o gychwyn y daith addysg hyd at Lefel Uwch.
Hefyd, mae angen strwythur
penodol ar gyfer asesiadau er mwyn sicrhau cysondeb ar draws
Cymru.
|
|
Cwestiwn 6
- Os byddai'n rhaid
ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau
rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?
|
Hwyluso'r broses o symud
ysgolion ar hyd y continwwm iaith.
Mae'r broses o newid categori
iaith ysgolion yn hir wyntog a chymhleth ac yn cymryd nifer o oriau
i dîm o swyddogion i'w gweithredu. Un o argymhellion y
Strategaeth wrth gwrs yw symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith,
pam felly creu proses mor anodd?
Hefyd mae angen cyfle i addysg
i ymwreiddio ac felly hepgor nifer o newidiadau cyson.
Yn yr hinsawdd o newidiadau di
ri mae athrawon ar draws y byd addysg yn colli hyder ac felly'n
colli'r sgiliau creadigol pwerus sydd angen i wella
safonau.
Mae angen I Estyn cyd weithio'n
agosach gydag awdurdodau lleol a chonsortia er lles ein disgyblion,
staff ac wrth gwrs i sicrhau safonau uwch
|
Cwestiwn 7
- A oes gennych
unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd
amdanynt yn y cwestiynau penodol?
|
Mae yna bocedi o arfer da iawn
ar draws Cymru ble mae safonau o’r Cyfnod Sylfaen -CA4 yn
uchel. Serch hynny, dydy hwn ddim yn ddigon cyson ar draws.
Rhaid gweithio tuag at ledu arfer dda ac edrych tu hwnt i
Gymru o ran dwyieithrwydd. Rhaid hybu manteision
dwyieithrwydd ar lefel cenedlaethol a chwalu'r 'myths' rhieni o
beth mae addysg ddwyieithog yn golygu.
Rhaid cael ein disgyblion i
ymfalchïo yn yr iaith a sicrhau bod yr iaith Gymraeg ddim yn
aros fel iaith y dosbarth yn unig.
|